Gall pawb yn Abertawe fwynhau diwylliant am ddim ar garreg eu drws pan fydd Sgriniau Mawr BP y Tŷ Opera Brenhinol yn cael eu gosod mewn 24 lleoliad allweddol ar draws y DU yr haf hwn, gan gynnwys yn Sgwâr y Castell.
Dewch â phicnic a gwyliwch y perfformiadau clasurol canlynol yn fyw gyda’ch teulu a’ch ffrindiau: Romeo and Juliet, Carmen a The Marriage of Figaro.
Ar 11 Mehefin, bydd y Sgrîn Fawr BP gyntaf ar gyfer 2019 yn darlledu’n fyw o’r Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden. Mae bale enwog Kenneth MacMillan, Romeo and Juliet, yn adrodd hanes llawn cariad a thorcalon cwpl enwoca’r byd llenyddol. Ar 2 Gorffennaf, bydd fersiwn orfoleddus y cyfarwyddwr arobryn Barrie Kosky o Carmen gan Bizet yn cael ei dangos. Gyda pherfformiadau cabare a dawnswyr profiadol, mae’r cynhyrchiad hwn yn gampwaith go iawn. Ar 9 Gorffennaf, bydd The Marriage of Figaro gan y Tŷ Opera Brenhinol yn cael ei dangos ar y sgrîn. Mae David McVicar yn gyfrifol am lwyfannu comedi orau Mozart, gyda’i sgôr gyflym, yn y cynhyrchiad digrif hwn â deuawdau hudolus ac ariâu llawn emosiwn.
Rhannwch ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio @royaloperahouse a’r stwnshnodau #ROHromeo, #ROHcarmen ac #ROHfigaro.
Mae’r Tŷ Opera Brenhinol am i bawb gael mynediad at berfformiadau bale ac opera eithriadol. Mae’r Bale Brenhinol, yr Opera Brenhinol a Cherddorfa’r Tŷ Opera Brenhinol yn dod ag artistiaid mwyaf arbennig y byd ynghyd ar gyfer dros 500 o berfformiadau bob blwyddyn ar ein dau lwyfan o’r radd flaenaf.
Rydym ar agor bob dydd o 10am gyda rhaglen o ddigwyddiadau, gweithgareddau a gwyliau yn ystod y dydd i bobl o bob oedran. Trwy gerddoriaeth, dawns a theatr arobryn rydym yn cludo’n cynulleidfaoedd i fydoedd eraill.
Y llynedd, roedd dros 676,000 o bobl wedi gwylio perfformiad gan y Tŷ Opera Brenhinol neu wedi dod am daith dywys. Mae rhaglen Sgriniau Mawr BP yr haf yn helpu miloedd o bobl i fwynhau perfformiadau opera a bale penigamp am ddim ar garreg eu drws, o Aberdeen i Ynys Wyth. Roedd tymor Sinema Byw’r Tŷ Opera Brenhinol, sy’n darlledu perfformiadau bale ac opera byw i sinemâu yn y DU ac ym mhedwar ban byd, wedi dathlu 10 mlynedd o ddarllediadau sinema o’r radd flaenaf yn 2018. Yn 2019, byddwn yn darlledu i dros 1,500 o sinemâu’n fyd-eang. O ganlyniad i’n partneriaeth barhaus â’r BBC, darlledwyd tri o’n cynyrchiadau ar lwyfannau/sianeli’r BBC y tymor diwethaf.
Bydd Sgwâr y Castell ar agor i bawb. Dewch â chlustogau a blancedi er mwyn bod yn gyfforddus. Bydd bwyd a diod ar gael o fangreoedd lleol; neu mae croeso i chi ddod â’ch picnic eich hun. Dylid cael gwared ar unrhyw wastraff yn y biniau a ddarperir neu fynd ag ef adref. Gwisgwch yn briodol ar gyfer yr amodau tywydd a ragwelir. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
Er budd diogelwch y cyhoedd, bydd yr amodau canlynol yn berthnasol yn Sgwâr y Castell:
- Bydd mynediad i’r digwyddiad ar sail y cyntaf i’r felin, yn amodol ar y lle sydd ar gael
- Bydd gan stiwardiaid y digwyddiad ganiatâd i chwilio drwy eiddo unigolion wrth iddynt fynd i mewn i’r digwyddiad. Ni fydd staff yn gyfrifol am unrhyw eitemau gwaharddedig
- Mae eitemau gwaharddedig yn cynnwys gwydr, parasolau mawr, gasebos, cysgodlenni a barbeciwiau tafladwy, ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r rhain.
- Mae’r trefnwyr yn cadw’w hawl i wrthod mynediad i’r digwyddiad am ba reswm bynnag